Ydych chi’n ystyried eich rôl gyntaf fel cyfarwyddwr anweithredol (non-executive director -NED) neu Ymddiriedolwr yng Nghymru?
P’un ai ydych chi’n gynnar yn eich gyrfa, mewn cyfnod pontio, yn archwilio llwybr portffolio, neu’n ystyried ymgymryd â rôl yn ddiweddarach mewn bywyd ar ôl ymddeol , gall camu i swydd NED fod yn ffordd gyffrous o gael effaith ar rai o heriau mwyaf arwyddocaol heddiw, cyfrannu at eich cymuned, a datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth.
Ddydd Mercher 25 Mehefin , ymunodd Rosemary Baylis-West o’n Tîm Llywodraeth Ganolog â Carys Williams, Arweinydd NED Llywodraeth Cymru, Cadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru, Sherrie Woolf, a thros 100 o bobl o bob cwr o Gymru a oedd yn chwilio am gyngor ac awgrymiadau ymarferol ynghylch bod yn aelodau o fwrdd.
(Read the English version of this article.)
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Pam ystyried rôl Anweithredol yng Nghymru?
Mae rolau anweithredol yn cynnig cyfle unigryw i:
- Ddylanwadu a chael effaith ar sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector
- Cymhwyso eich profiad bywyd a phroffesiynol i wneud penderfyniadau strategol
- Cynnig profiad o weithio mewn tîm mewn ffordd wahanol
- Rhoi sgiliau lefel uchel ichi ar gyfer y dyfodol
- Cyfrannu at ddyfodol Cymru
Fel y dywedodd Carys:
“Mae bod yn NED yn un o’r ffyrdd gorau o ddatblygu sgiliau arwain — ac weithiau rydych chi hyd yn oed yn cael eich talu i wneud hynny.”
Eglurodd Sherrie ei thaith i’w rôl Cadeirydd bresennol: “Cefais fy mabwysiadu gan rieni o Gymru pan oeddwn i’n ddwy oed a chyn gynted ag yr oeddwn i’n ddigon hen , gadewais ac es i ffwrdd i’r ddinas, gan ddatblygu fy ngyrfa ariannol yn Llundain, America a’r Iseldiroedd. Ond roeddwn yn methu Cymru ac yn dod adref gyda theimlad newydd o falchder yng Nghymru a’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.
Myfyriodd Carys ar rai o agweddau allweddol bod yn aelod anweithredol o Fwrdd:
“Dydych chi ddim yno i ddweud wrth unrhyw un beth i’w wneud. Dydych chi ddim yno i wneud y gwaith. Rydych chi yno i roi cefnogaeth. Rydych chi yno i annog. Rydych chi yno i gynghori a chael holi eich barn ac rydych chi yno i rybuddio pobl am beryglon a phroblemau posibl. Mae’n ymwneud â goruchwylio’r hyn y mae eraill wedi’i wneud, ceisio sicrwydd a thawelwch meddwl ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn y sefydliad hwnnw. Fel Cyfarwyddwr Anweithredol, rydych chi’n canolbwyntio’n gyson ar yr hyn sy’n iawn i bobl Cymru.
Beth yw’r pethau iawn i’w gwneud i’r bobl y mae’r bwrdd yn eu gwasanaethu?
Beth yw’r peth iawn i wneud y sefydliad hwn yn gynaliadwy?”
Soniodd Sherrie am ei thaith at dderbyn y cyfrifoldebau hyn, a’r gwydnwch sydd ei angen yn wyneb heriau:
“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cwrs o’r enw Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (Equal Power Equal Voice) wedi’i anelu at fenywod, pobl ag anableddau a phobl o leiafrifoedd ethnig. Fe fynychais i’r cwrs hwn. Roedd yn anodd iawn llunio’r holl geisiadau, y manylder sy’n mynd i mewn i bob cais ac yna peidio â chlywed dim yn ôl. Mae angen gwytnach arnoch chi. A sylweddoli ei fod yn faes cystadleuol.”
Pum prif beth i’w ystyried wedi’r weminar:
1. Ystyriwch eich man cychwyn
- Mae llawer o fyrddau eisiau penodi swyddogion anweithredol am y tro cyntaf ,felly dechreuwch eich taith yn hyderus.
- Ystyriwch rolau ymddiriedolwyr, llywodraethwyr ysgolion, neu fyrddau cynghori fel camau cyntaf.
- Mae byrddau’r GIG a byrddau elusennau yn aml yn darparu hyfforddiant rhagorol mewn llywodraethu a risg.
2. Lluniwch gais cryf
Gofynnwch bob amser am sgwrs i gael gwybod y cyd-destun os oes penhelwyr (head hunters) fel GS yn ymdrin â’r penodiad. Byddwch yn cael gwybodaeth ddefnyddiol i’w gynnwys o fewn eich cais.
CV :
- Glynwch at ddwy dudalen o leiaf maint 11 a ffont hawdd ei darllen fel Arial neu Times New Roman
- Ystyriwch gynnwys paragraff proffil: 3-4 brawddeg yn crynhoi eich gyrfa, eich steil arweinyddiaeth, pam eich bod wedi’ch cymell i geisio rôl NED, a pham Cymru. Gallech hefyd sôn am yr amseru – pam nawr.
- Yna gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys hanes eich gyrfa yn llawn gyda dyddiadau, gan egluro unrhyw fylchau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi maint a chwmpas y sefydliadau rydych chi wedi gweithio ynddynt: trosiant, nifer y staff, a yw’n sefydliad rhanbarthol / cenedlaethol / rhyngwladol?
- 2-3 pwynt bwled o gyflawniadau ar gyfer pob rôl, gan sôn yn benodol am sgiliau trosglwyddadwy i’r Bwrdd – strategaeth, bod yn rhan o dîm llwyddiannus, profiad llywodraethu / prosiectau / risg ac unrhyw sgiliau arbenigol fel cyllid, archwilio, Adnoddau Dynol, technoleg.
- Rhowch enwau dau ganolwr os ydych chi’n gyfforddus i wneud hynny – gallent fod yn gyfoedion ac nid oes angen iddynt fod yn rheolwyr llinell.
Datganiad:
- Addaswch hwn i bob rôl. Rhowch baragraffau agoriadol cryf yn trafod pam fod y rôl hon yn eich denu a’ch agwedd tuag at yr heriau a’r cyfleoedd y byddwch yn ei gynnig i’r sefydliad; hefyd pam nawr – pam allwch chi ymgymryd â’r math hwn o rôl ar hyn o bryd (e.e. mae’ch cyflogwr yn rhoi amser i chi ei wneud; rydych chi’n gweithio’n rhan-amser; rydych chi wedi ymddeol; rydych chi’n cyfuno gwaith gwirfoddol â phethau eraill mewn bywyd).
- Rydym yn argymell pedwar paragraff sy’n dod â’r sgiliau trosglwyddadwy o’ch gyrfa fel swyddog gweithredol yn fyw – gan roi mwy o fanylion na’r hyn a ddywedwyd yn eich CV a’i ategu ag enghreifftiau: e.e. mae gennych brofiad llywodraethu oherwydd eich bod wedi arwain prosiect – disgrifiwch y risgiau a liniarwyd a’r cyfleoedd a wireddwyd.
- Ystyriwch fyfyrio ar y pwyntiau pontio i chi a sut y byddwch chi’n llywio’r rhain – i ble fyddwch chi’n mynd i gael mentora a chefnogaeth?
- Ystyriwch sôn am bwy ydych chi a sut bersonoliaeth sydd gennych– beth ydych chi’n dda am ei wneud a allai fod yn ddefnyddiol i’r Bwrdd hwn?
Adolygwch y gwaith papur – Mae Rosemary yn GS yn hapus i gynnig sesiynau un-i-un i gael cipolwg cyntaf: rosemary.baylis-west@gatenbysanderson.com – mae croeso i chi gysylltu.
3. Mynd i gyfweliadau yn hyderus
- Rhannwch eich stori, gan gynnwys eich profiadau byw, os ydych chi’n gyfforddus i wneud hynny.
- Rhowch esiamplau o’r amrywiaeth o brofiadau a gawsoch – efallai newidiadau gyrfa wedi’u llywio’n llwyddiannus, diswyddo wedi’i lywio’n llwyddiannus neu ddychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch neu gyfrifoldebau gofalu.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ategu yr hyn a ddywedwch gydag enghreifftiau pendant, gan ddod â’r rhain yn fyw gyda ffeithiau a ffigurau – e.e. Roeddwn i’n rhan o dîm o 12 a lwyddodd i oresgyn y risgiau canlynol lle roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd ar brosiect mawr o’r dyluniad i’r cyflwyniad terfynol. Fy ngwerth ychwanegol yn y tîm oedd…
- Defnyddiwch gyfweliadau i asesu diwylliant y bwrdd ac i ystyried a yw’n addas i chi.
- Trafodwch y cyfweliad gyda’r penheliwr ymlaen llaw os oes cwmni chwilio yn gysylltiedig – weithiau mae angen symud ymlaen o brofiadau drwg yn y gorffennol, a gall trydydd parti eich helpu i ddechrau gwneud hyn a mynd ymlaen i’r cyfweliad yn hyderus.
4. Mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi
- Mae byrddau’n chwilio’n weithredol am leisiau amrywiol—ar draws oedran, ethnigrwydd, rhyw, LGBTQ+, anabledd, niwroamrywiaeth, a chefndiroedd proffesiynol.
- Peidiwch â digalonni os nad oes gennych brofiad blaenorol o fod ar fwrdd. Mae angerdd, pwrpas a phersbectif yn bwysig.
5. Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael
- Edrychwch ar lwyfannau fel Byrddau Cymru (Boards Wales) a Reach Volunteering.
- Ystyriwch raglenni fel Boardroom Apprentice neu Equal Power Equal Voice .
- Cysylltwch â phenhelwyr a mentoriaid ar LinkedIn.
I gloi
Fel y dywedodd Sherrie;
“Byddwch yn falch o’ch profiad gwaith a’ch profiadau byw. Ceisiwch gyfleu sut mae hynny’n berthnasol i’r rôl. Gwnewch hi’n hawdd i’r darllenydd gael syniad o bwy ydych chi.”
P’un ai ydych chi’n weithiwr proffesiynol ym maes cyllid, yn arbenigwr digidol, yn arweinydd cymunedol, neu’n rhywun sydd â diddordeb mawr mewn gwasanaethau cyhoeddus, mae yna fwrdd sydd angen eich llais.
Y camau nesaf:
Yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich taith anweithredol?
P’un ai ydych chi newydd ddechrau neu’n mireinio’ch uchelgeisiau ar lefel bwrdd, gall arweiniad arbenigol wneud yr holl wahaniaeth.
Cysylltwch â GatenbySanderson i gael cymorth wedi’i deilwra i helpu ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus a chyfleoedd anweithredol ledled Cymru.
I gael mentora personol, adolygu CV’au a datganiadau, neu gyngor strategol ar eich cais nesaf, cysylltwch yn uniongyrchol â Rosemary Baylis-West: rosemary.baylis-west@gatenbysanderson.com
Gadewch i Rosemary a thîm GatenbySanderson eich helpu i wireddu eich potensial a sicrhau eich rôl anweithredol gyntaf (neu nesaf).
Rosemary Baylis-West
- Prif Ymgynghorydd, Llywodraeth Ganolog
- Cadeirydd, Grŵp Perthynas Galluoedd Amrywiol
- 07407 844166